Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Mecryll mewn Saws

Cricieth, Gwynedd

Yr oedd hwn yn bryd blasus i swper yn ystod misoedd yr haf.

Cricieth, Caernarfon.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dau neu dri macrell
  • tri neu bedwar nionyn
  • tri llond llwy fwrdd o finegr gwyn
  • deilen lawryf
  • ychydig o arlleg
  • ychydig o olew olewydden

 

Dull

  1. Glanhau’r mecryll yn y dull arferol a’u ffrio’n drwyadl.
  2. Tynnu’r croen a’r esgyrn ymaith.
  3. I wneud y saws, tafellu’r nionod a’u ffrio yn yr olew nes iddynt gochi, ynghyd â’r deilen lawryf a’r garlleg. 
  4. Yna gadael i’r cyfan oeri cyn ychwanegu’r finegr atynt.
  5. Rhoi’r mecryll mewn dysgl ar ôl iddynt oeri a thywallt y saws drostynt.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.