Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Saws Cartref

De Sir Benfro

Y rhidyll, y gocses a'r rhaca - offer hel cocos.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • melyn dau wy
  • ychydig o halen
  • hanner llond llwy de o bowdr mwstard
  • hanner llond llwy de o siwgr
  • llond llwy fwrdd o finegr gwyn
  • pedwar llond llwy fwrdd o olew salad (neu olew olewydden)
  • tri neu bedwar llond llwy fwrdd o hufen

Dull

  1. Rhoi melyn yr wyau, y mwstard, yr halen a’r siwgr mewn basn a’u curo’n ysgafn. 
  2. Yna ychwanegu’r olew a’r finegr at y cymysgedd, a’u curo eto. Rhaid eu hychwanegu’n raddol iawn rhag i’r defnyddiau geulo.
  3. Cymysgu’r cyfan yn dda cyn ychwanegu’r hufen, yn raddol eto, at y saws.

Gwneid y saws hwn i’w fwyta gyda chimwch neu granc oer a salad.

De Penfro.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.