Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Sgons Enwyn

Heol Senni, Sir Frycheiniog

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • tair neu bedair owns o ymenyn
  • tair owns o siwgr
  • ychydig o soda pobi
  • llaeth enwyn

 

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt, a’u gwlychu’n raddol â’r llaeth enwyn nes cael toes meddal.  
  2. Gyrru’r toes i ryw chwarter modfedd o drwch a’i dorri’n deisennau crwn. 
  3. Eu crasu ar lechfaen gweddol boeth a’u bwyta’n gynnes.

Heol Senni, Brycheiniog.

 
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.