Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Ddim

Llandeilo’r-fân a Heol Senni, Sir Frycheiniog

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • chwarter pwys o lard
  • ychydig o halen
  • llaeth enwyn

 

Dull

  1. Rhwbio’r lard i mewn i’r blawd a’r halen, a’u gwlychu â’r llaeth enwyn nes cael toes meddal. 
  2. Gyrru’r toes i ryw chwarter modfedd o drwch i wneud teisen fawr, gron a’i chrasu ar lechfaen gweddol boeth.  (Gellir torri’r toes yn deisennau bach, yn ôl y dewis.)
  3. Taenu ymenyn ar y deisen a’i bwyta’n gynnes.

Llandeilo’r-fân a Heol Senni, Brycheiniog.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.