Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Afal

Gŵyr

Casglu afalau, Mordiford

Casglu afalau, Mordiford

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o flawd codi
  • chwarter pwys o ymenyn
  • chwarter pwys o lard
  • pum owns o siwgr
  • un wy wedi’i guro ac ychydig o laeth
  • chwarter llond llwy de o halen
  • hanner pwys o afalau coginio

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r siwgr a’r halen atynt. 
  2. Glanhau’r afalau, eu torri’n fân, a’u gweithio drwy’r defnyddiau sych eraill. 
  3. Gwlychu’r cymysgedd hwn yn raddol â’r wy a’r llaeth nes cael toes gweddol sych.
  4. Gyrru’r toes yn denau a’i dorri’n deisennau bach, sgwâr. 
  5. Eu crasu ar y ddwy ochr ar faen gweddol boeth, a thaenu siwgr arnynt.

Bro Gŵyr.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.