Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pice’r Pregethwr

Caergybi, Sir Fôn

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pedair owns o flawd codi
  • tair owns o ymenyn
  • dau wy
  • hanner peint o laeth enwyn neu lefrith

 

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, curo’r wyau a’u tywallt yn raddol ynghyd â’r llaeth enwyn i mewn i’r defnyddiau sych. 
  2. Curo’r cyfan yn drwyadl nes cael cytew da, a’i adael i sefyll dros nos.
  3. Tywallt y cytew, fesul llwyaid, ar radell gynnes, a chrasu’r pice ar y ddwy ochr yn yr un dull â chrempog.
  4. Eu bwyta’n boeth a thrwch o ymenyn arnynt.

Caergybi, Môn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.