Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Pwdin Pancos

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Dysgl

Dysgl

Cresid y pwdin hwn gyda’r bara yn y ffwrn wal, gynt.

Llandeilo, Caerfyrddin.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • crwst brau 
  • syltanas
  • peint o gytew melys (gw. cytew crempog)
  • ychydig o ymenyn

Dull

  1. Gorchuddio gwaelod ac ochrau dysgl bwdin â chrwst brau. 
  2. Rhoi haen drwchus o syltanas ar y crwst ac arllwys y cytew melys drostynt. 
  3. Rhoi talpiau o ymenyn ar wyneb y cytew a chrasu’r pwdin mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr o amser.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.