Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Twmplen Gwsberis

Groes-goch, Penfro

Y Rysáit

Byddwch angen

  • crwst brau
  • gwsberis

Dull

  1. Iro basn pridd a gorchuddio’i ochrau a’i waelod â chrwst brau. 
  2. Llenwi’r basn â gwsberis a rhoi haen o grwst ar eu hwyneb. 
  3. Rhoi darn o liain dros wyneb y basn a’i glymu’n dynn â llinyn.
  4. Berwi’r pwdin mewn hanner llond sosban o ddŵr am ryw awr neu ragor.
  5. Taenu siwgr ar y pwdin, a’i fwyta’n gynnes gan arllwys ychydig o laeth oer arno, yn ôl y dewis.

Groes-goch, Penfro.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.