Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Trolis Blawd Plaen

Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Y Rysáit

Byddwch angen

  • chwech owns o flawd plaen
  • dwy owns o siwet
  • dwy owns o gyrens
  • ychydig o halen
  • llaeth

Dull

  1. Torri’r siwet yn fân a’i gymysgu â’r blawd plaen a’r defnyddiau sych eraill. 
  2. Eu gwlychu â llaeth a’u tylino’n does sych.
  3. Rhannu’r toes yn bedwar neu chwe darn cyfartal, a’u llunio’n beli crwn rhwng y ddwy law.
  4. Eu gollwng i lond sosban o ddŵr berw a’u berwi am ryw ugain munud. 
  5. Ysgwyd siwgr coch drostynt a’u bwyta’n gynnes.

Llanelli, Caerfyrddin.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.