Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Y Rysáit
Byddwch angen
- tri phwys o gyrens duon
- tri pheint o ddŵr oer
- chwe phwys o siwgr
Dull
- Arllwys y dŵr ar y ffrwythau a’u berwi am bymtheng munud.
- Ychwanegu’r siwgr atynt a’u berwi drachefn am ddeng munud.
- Gadael i’r jam glaearu cyn ei godi i botiau cynnes a’u gorchuddio ar unwaith.
Pontyberem, Caerfyrddin.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.