Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Jam Gwsberis

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dau bwys o wsberys (eirin Mair)
  • llond wyth gwpan o ddŵr oer
  • saith bwys o siwgr

Dull

  1. Arllwys y dŵr dros y gwsberys a’u berwi am hanner awr. 
  2. Ychwanegu’r siwgr atynt a’u berwi drachefn am ugain munud.
  3. Gadael i’r jam glaearu rhyw gymaint cyn ei godi i botiau. 
  4. Rhoi gorchudd ar wyneb pob pot tra bo’r jam yn gynnes.

Pontyberem, Caerfyrddin.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.