Amser Bwyd
Bara Gwenith
Y Bala, Gwynedd
Ffilm bwysig yn dangos yr hen ddull traddodiadol o grasu bara mewn ffwrn fach.
Yn y darn golygedig yma, gwelir Mrs Leis Rogers, Ffair-rhos yn codi toes a gymysgwyd ac a dylinwyd eisoes o'r badell a'i roi ar fwrdd y gegin. Yna mae'n ei dylino'n ysgafn a'i lunio'n dorth gron. Marcio'r wyneb wedyn â chyllell cyn rhoi'r dorth yn y ffwrn fach i'w chrasu ar y tân agored. Rhoi'r clawr ar y ffwrn ac yna codi darnau o fawn coch o'r tân ag efail haearn a'u rhoi ar wyneb y clawr yn drefnus - llanw o gwmpas ymyl y clawr yn gyntaf, yna llanw'r canol. Rhoi darnau o fawn ffres ar y tân o dan y ffwrn. Awr yn ddiweddarach, mae Mrs Rogers yn codi'r clawr oddi ar y ffwrn yn ofalus â'r efail - gofalu bod dim o'r llwch mawn yn syrthio ar wyneb y dorth. Y dorth wedi crasu - ei chodi allan o'r ffwrn, taro'r ochr isaf â dwrn i'w phrofi a'i rhoi ar y bwrdd i oeri.
Y Rysáit
Byddwch angen
- dau bwys o flawd gwenith
- tri chwarter owns o furum ac ychydig o siwgr
- ychydig o halen
- ychydig o ymenyn (yn ôl y dewis)
- peint o ddŵr cynnes
Dull
- Rhoi’r blawd mewn padell wedi’i chynhesu ymlaen llaw a chymysgu’r halen drwyddo.
- Cymysgu’r burum a’r siwgr mewn dysgl ac ychwanegu ychydig o’r dŵr cynnes atynt.
- Gwneud pant yng nghanol y blawd a thywallt y burum a’r siwgr iddo.
- Taenu ychydig o flawd dros wyneb y burum, gorchuddio’r badell â lliain glân a’i gadael mewn lle cynnes am ryw ugain munud.
- Yna tylino’r toes yn dda gan ychwanegu’r dŵr cynnes fel y bo angen. Rhaid i’r toes hwn fod yn feddalach na thoes blawd gwyn.
- Rhoi lliain dros wyneb y badell eto a’i gadael mewn lle cynnes am ryw awr o amser er mwyn i’r toes godi.
- Iro[M1] tuniau bara a’u rhoi mewn lle cynnes.
- Yna codi’r toes i fwrdd pren, ei rannu, a’i foldio’n dorthau yn ôl maint a siâp y tuniau.
- Rhoi’r toes yn y tuniau a’i adael i godi eto am hanner awr cyn crasu’r torthau mewn popty cymharol boeth am ryw awr. (Y mae rhwbio ychydig o ymenyn i’r blawd gwenith yn help i rwystro’r bara rhag sychu’n fuan.)
Y Bala, Meirionnydd.