Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Surgeirch

Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Crasu torth mewn cidl

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner llond powlen o flawd gwenith
  • hanner llond llwy de o soda pobi
  • ychydig o siwgr a halen
  • ychydig o flawd ceirch
  • ychydig o laeth enwyn

Dull

  1. Rhoi’r blawd gwenith, y soda pobi, y siwgr a’r halen mewn padell bridd, eu cymysgu’n dda a gogrwn y blawd ceirch drostynt.
  2. Gwlychu’r defnyddiau â llaeth enwyn nes cael cymysgedd a fydd yn ddigon gwlyb i ddisgyn oddi ar y llwy’n weddol hawdd.
  3. Iro’r badell ffrio a’i chynhesu cyn rhoi’r cymysgedd arni. 
  4. Crasu’r dorth bob ochr yn y dull arferol.

Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.