Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Brith

Aberteifi, Ceredigion

Crasu torth mewn cidl

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • tair owns o ymenyn
  • tair owns o siwgr
  • ychydig o halen
  • chwech owns o ffrwythau cymysg
  • hanner owns o furum
  • hanner peint o laeth
  • wy
  • ychydig o nytmeg

Dull

  1. Cynhesu’r ymenyn a’r llaeth mewn sosban.
  2. Rhoi’r defnyddiau sych mewn padell gynnes ynghyd â’r burum wedi’i friwsioni’n fân.
  3. Curo’r wyau, eu harllwys ar yr ymenyn a’r llaeth cynnes, a’u cymysgu’n raddol i mewn i’r blawd i wneud toes meddal. 
  4. Rhoi’r toes i godi mewn lle cynnes nes gwelir bod ei faint gwreiddiol wedi dyblu. 
  5. Yna tylino’r toes ar fwrdd pren, ei lunio’n dorth a’i roi mewn tun bara. 
  6. Gadael i’r torth godi eto yn y tun am ychydig o amser cyn ei rhoi mewn ffwrn weddol boeth. 
  7. Ei chrasu yno am ryw awr o amser.

Aberteifi.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.