Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Tatws Pum Munud

Paratoi tatws pum munud

Cyfrifid hwn yn bryd blasus i ginio.

Mynytho, Llŷn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • sleisennau o gig moch
  • tatws
  • nionod
  • pupur a halen
  • ychydig o beilliaid
  • dŵr

Dull

  1. Ffrio sleisennau o gig moch ar y badell ffrio a’u codi i blât. 
  2. Torri’r tatws a’r nionod ar draws a’u ffrio yn saim y cig moch. 
  3. Eu blasu â phupur a halen a thaenu ychydig o beilliaid drostynt. 
  4. Yna tywallt dŵr i orchuddio’r tatws yn y badell cyn rhoi’r sleisennau cig yn ôl ar eu hwyneb. 
  5. Eu coginio’n araf nes y bo’r dŵr wedi sychu a’r tatws wedi cochi.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.