Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Carwe Sir Fôn

Biwmares, Sir Fôn

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • ychydig o bowdr codi
  • dwy owns a hanner o ymenyn
  • owns o siwgr
  • hanner owns o hadau carwe
  • hanner peint o laeth
  • ychydig o halen

Dull

  1. Gogryn y blawd i ddysgl a rhwbio’r ymenyn iddo.
  2. Ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt, eu gwlychu â’r llaeth, a’u tylino’n does ysgafn.
  3. Rhoi’r toes mewn tun wedi’i iro, a’i grasu mewn popty gweddol boeth am ryw awr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.