Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Carwe

Aberystwyth, Ceredigion

Rhawlech

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd plaen
  • ychydig o bowdr codi
  • llond llwy de o halen
  • hanner llond llwy fwrdd o hadau carwe
  • owns o siwgr
  • dwy owns a hanner o ymenyn
  • wy
  • chwarter peint o laeth

Dull

  1. Gogryn y blawd a’r halen i ddysgl, rhwbio’r ymenyn iddynt a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt.
  2. Curo’r wy a’r llaeth gyda’i gilydd a’u defnyddio’n raddol i wlychu’r cymysgedd nes cael toes ysgafn.
  3. Iro tun bara, rhoi’r toes ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr.

Aberystwyth, Aberteifi.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.