Gyrru’r crwst yn denau a’i roi i orchuddio gwaelod ac ochrau dysgl ddofn.
Cymysgu’r blawd ag ychydig o’r llaeth.
Curo’r wyau’n dda mewn basn mawr, arllwys gweddill y llaeth arnynt, ac ychwanegu’r cymysgedd blawd a llaeth, yr halen, y siwgr a’r persli, a chymysgu’r cwbl yn dda.
Arllwys y cymysgedd ar y crwst yn y ddysgl, torri’r cig moch yn ddarnau bach a’u rhoi ar yr wyneb.
Crasu’r bastai mewn ffwrn weddol boeth am hanner awr neu nes gwelir bod y cymysgedd wedi ceulo.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.