Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Ponco
Nefyn, Gwynedd
Pan fyddai wyau’n brin ni fyddid yn cynnwys wyau yn y cytew bob tro; blawd a llefrith neu ddŵr fyddai’r cynnwys.
Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.
Y Rysáit
Byddwch angen
- dau wy
- ychydig o lefrith
- ychydig o flawd
Dull
- Curo’r wyau’n dda, tywallt y llefrith arnynt a’u cymysgu i mewn i’r blawd i wneud cytew heb fod yn anystwyth.
- Rhoi ychydig o saim cig moch yn y badell ffrio, tywallt y cytew hwn ar y saim cynnes a’i ffrio ar y ddwy ochr.
- Ei fwyta gyda chig moch wedi’i ffrio.
Nefyn, Llŷn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.