Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Teisen Dorth
Dowlais, Merthyr Tudful
Gwneid y deisen hon yn arbennig ar gyfer y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru ac yn yr ardaloedd cyfagos. Bryd hynny, byddai gwragedd y pentref yn gwneud dwy neu dair deisen ar y tro ac yn eu cario i’r bacws lleol i’w crasu. ‘Roedd hi’n arfer i’r cymdogion ‘brofi’ teisennau ei gilydd yn ystod gwyliau’r Nadolig a cheir tystiolaeth (yn ardal Margam ger Port Talbot) am yr hen goel: os profai merch ifanc dair teisen ar ddeg o gwmpas un Nadolig y byddai’n siŵr o ennill gŵr yn y Nadolig canlynol.
Y Rysáit
Byddwch angen
- pwys a hanner o flawd plaen
- hanner pwys o ymenyn
- chwarter pwys o lard
- cwpanaid a hanner o siwgr coch
- hanner pwys o resins
- hanner pwys o syltanas
- hanner pwys o gyrens
- ychydig o nytmeg a sinamon
- ychydig o groen lemon wedi’i falu
- chwech wy
- owns a hanner o furum
- ychydig o halen
Dull
- Rhoi’r burum a llond llwy de o siwgr mewn basn bach, eu cymysgu ag ychydig o ddŵr claear, rhoi soser ar wyneb y basn a gadael i’r burum ‘weithio’ mewn lle cynnes.
- Golchi’r ffrwythau mewn dŵr claear, eu rhwbio mewn lliain a’u rhoi i sychu ar hambwrdd wrth ymyl y tân.
- Torri’r resins yn chwarteri os mai rhai mawr a ddefnyddir.
- Rhwbio’r ymenyn a’r lard i mewn i’r blawd, ychwanegu’r ffrwythau a’r defnyddiau sych eraill a’u cymysgu’n dda drwy’r blawd.
- Gwneud ‘llygad’ yng nghanol y defnyddiau sych ac arllwys y burum iddo.
- Curo’r wyau’n dda a’u hychwanegu at y burum i wlychu’r deisen. Dylai ansawdd y cymysgedd hwn fod ychydig yn wlypach nag ansawdd toes bara, a gellir defnyddio ychydig o lasdwr claear i’w gael i’r ystwythder iawn.
- Rhoi lliain dros wyneb y badell a gadael i’r cymysgedd godi mewn lle cynnes am ychydig o amser cyn ei rannu i duniau priodol. (Dylid iro a chynhesu’r tuniau ymlaen llaw.)
- Gadael i’r cymysgedd godi eto yn y tuniau am awr neu ragor gan ei fod yn drymach na thoes cyffredin.
- Crasu’r teisennau mewn ffwrn weddol isel ei gwres am ryw awr (neu ragor, yn ôl eu maint).
Dowlais, Morgannwg.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.