Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Tarten Bwmpen

Ynys Enlli, Gwynedd

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwmpen (marrow)
  • siwgr
  • cyrens
  • crwst brau

Dull

  1. Gwneud crwst brau ymlaen llaw.
  2. Glanhau’r bwmpen, ei thafellu, a’i berwi mewn ychydig o ddŵr i’w meddalu. 
  3. Yna tywallt pob diferyn o ddŵr oddi arni, a’i gadael i oeri cyn ei malu hi â fforc. 
  4. Rhoi ychydig o’r cymysgedd hwn rhwng dwu haen o grwst ar blât mawr a’i orchuddio â digon o siwgr ac ychydig o gyrens.  (Ni ddylid rhoi’r cymysgedd yn rhy drwchus rhwng y crwst gan ei fod yn dueddol o ‘redeg’ ar hyd y popty.) 
  5. Selio’r crwst gydag ymyl y plat yn y dull arferol a chrasu’r darten mewn popty poeth.

Ynys Enlli.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.