Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Gneifio

Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

Diwrnod cneifio, Blaenau Mawr, Cwmdu, Powys, tua 1920.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o flawd plaen
  • chwech owns o siwgr llaith
  • pedair owns o ymenyn
  • croen hanner lemon (wedi’i falu)
  • un wy wedi’i guro
  • chwarter peint o laeth
  • llond llwy de o bowdr codi
  • dau llond llwy de o hadau carwe
  • ychydig o nytmeg

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u gwlychu â’r llaeth a’r wy.
  2. Iro tun ymyl-uchel a gorchuddio’i waelod a’i ochrau â haen o bapur ymenyn. 
  3. Rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw awr o amser.

Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.