Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Llaeth Berw

Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd
  • hanner pwys o ymenyn
  • chwech owns o siwgr brown
  • hanner pwys o gyrens
  • hanner pwys o resins
  • ychydig o sbeis
  • tri wy
  • hanner peint o laeth berw
  • hanner llond llwy de o soda pobi

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt. 
  2. Curo’r wyau a’u harllwys i ganol y defnyddiau sych. 
  3. Eu gwlychu’n raddol â’r llaeth berw (ar ôl toddi’r soda ynddo) a churo’r cymysgedd yn dda.
  4. Iro tun ymyl-uchel, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn ffwrn boeth.

Yr Eglwys Newydd, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.