Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Llaeth Enwyn

Cellan, Ceredigion

Tesien llaeth enwyn

Gellir gwneud y deisen hon pan fo wyau’n brin.

Cellan, Aberteifi.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pwys o flawd
  • hanner pwys o ymenyn
  • hanner pwys o gyrens
  • hanner pwys o syltanas
  • dwy owns o gandi pîl
  • hanner pwys o siwgr coch
  • hanner peint o laeth enwyn
  • ychydig o bowdr codi neu soda pobi
  • ychydig o sbeis, yn ôl y dewis

 

 

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i’r blawd a chymysgu’r defnyddiau sych eraill drwyddynt yn drwyadl. 
  2. Eu gwlychu’n raddol â llaeth enwyn nes cael cymysgedd gweddol sych.
  3. Iro tun ymyl-uchel, gorchuddio’r gwaelod a’r ochrau â haen o bapur ymenyn cyn rhoi’r cymysgedd ynddo, a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am awr a hanner neu ddwy awr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.