Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Gyrens

Ynys Enlli, Gwynedd

Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru.

Yr oedd hon yn un o’r cacennau a baratoid ar gyfer te dydd Sul ar Ynys Enlli.

Ynys Enlli.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • crwst brau
  • cyrens
  • siwgr
  • triog du

Dull

  1. Gwneud crwst brau ymlaen llaw a’i yrru’n weddol denau.
  2. Rhoi haen o grwst ar blât priodol. 
  3. Llenwi canol y plât â chyrens, a rhoi haen o driog a siwgr drostynt. 
  4. Gorchuddio’r cynnwys â haen arall o grwst a selio’r ddwy haen ar ei gilydd gydag ymyl y plât.
  5. Crasu’r gacen mewn popty poeth.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.