Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Cacen Goch

Ynys Enlli, Gwynedd

Enw arall ar y deisen hon ar Ynys Enlli oedd ‘tamad’ – teisen gyffredin a fwyteid yno i de prynhawn.

Ynys Enlli.

 

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o flawd plaen
  • dwy owns a hanner o ymenyn
  • pedair owns o ffrwythau cymysg
  • llond llwy fwrdd o driog du
  • dau llond llwy fwrdd o siwgr
  • ychydig o sbeis
  • llefrith neu laeth enwyn

 

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i’r blawd, ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt a’u gwlychu â’r llefrith a’r triog. 
  2. Ni ddylai’r cymysgedd fod yn rhy wlyb.
  3. Iro plât enamel, rhoi’r cymysgedd arno a’i grasu mewn popty gweddol boeth am ryw awr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.