Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen ‘Ffwrdd a Hi’

Ynys Môn

Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dwy owns o ymenyn
  • dwy owns o siwgr
  • dwy owns o gyrens
  • hanner pwys o flawd
  • ychydig o halen
  • llefrith

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt.
  2. Gwlychu’r defnyddiau hyn yn raddol â llefrith nes cael cymysgedd gweddol wlyb. 
  3. Iro tun ymyl-isel, rhoi’r cymysgedd ynddo a’i grasu mewn popty gweddol boeth.
  4. Y mae modd crasu’r deisen hon yn araf ar y radell ond dylid cadw’r cymysgedd yn weddol sych ar gyfer gwneud hynny.  Gellir hollti’r deisen radell pan fo’n boeth a rhoi ymenyn arni.

Môn.


 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.