Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Te Deg

Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

Paratoid y deisen hon i’w bwyta gyda chwpaned o de ar ganol y bore yn ardal Llanbedr Pont Steffan.

Llanbedr Pont Steffan, Aberteifi.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o flawd plaen
  • tair owns o siwgr
  • dwy owns o ymenyn
  • dwy owns o lard
  • un wy
  • hanner llond cwpan o laeth
  • hanner llond llwy de o halen
  • hanner llond llwy de o bowdr codi

Dull

  1. Curo’r saim a’r siwgr gyda’i gilydd, torri’r wy iddynt a’u curo drachefn. 
  2. Ychwanegu’r blawd a’r halen a’r powdr codi atynt yn raddol, a’u gwlychu â’r llaeth nes cael cymysgedd o’r un ansawdd â chymysgedd teisen gyffredin.  (Gellir rhoi dyrnaid o gyrens ynddo, yn ôl y dewis.)
  3. Iro tun ymyl-uchel, rhoi’r hyn a ddarparwyd ynddo, a’i grasu mewn ffwrn weddol boeth am awr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.