Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Dinca Fala

Yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Cresid y cymysgedd hwn mewn ffwrn dun o flaen y tân mewn rhai ardaloedd ym Morgannwg.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • deg owns o flawd codi
  • pum owns o ymenyn
  • pum owns o siwgr coch bras
  • pwys o afalau
  • ychydig o laeth

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd, ac ychwanegu’r afalau (wedi’u torri’n ddarnau bach) a’r siwgr atynt.
  2. Gwlychu’r defnyddiau â llaeth nes cael cymysgedd gweddol sych.
  3. Iro tun bas a rhoi’r cymysgedd ynddo i’w grasu mewn ffwrn weddol boeth am ryw hanner awr.

Yr Eglwys Newydd, Morgannwg.

Ffilm/Recordiad

Rhian Gay yn arddangos dull gyfoes o baratoi dinca fala.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.