Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisennau ’Berffro

Llanfachraeth, Sir Fôn

Teisennau 'Berffro

Teisennau 'Berffro

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dwy owns o siwgr mân
  • pedair owns o ymenyn
  • chwech owns o flawd

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i’r blawd a’r siwgr, a’u cymysgu’n dda nes iddynt glymu yn ei gilydd. 
  2. Llunio’r toes yn un rholyn hir. 
  3. Torri’r rholyn yn ddau ar hugain o ddarnau cyfartal.
  4. Rhoi ychydig o flawd ar gragen a gwasgu pob darn o’r toes arni nes bod ôl y gragen ar y deisen.
  5. Rhoi’r teisennau ar dun ymyl-isel a’u crasu mewn popty cynnes – ni ddylent gochi.
  6. Taenu siwgr drostynt pan font yn boeth.

Llanfachreth, Môn.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.