Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Teisen Dros Nos

Caernarfon, Gwynedd

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o flawd
  • pedair owns o ymenyn neu lard
  • tair neu bedair owns o ffrwythau sych, cymysg
  • llond llwy de o sinamon
  • llond llwy de o sinsir
  • hanner llond llwy de o soda pobi
  • llond llwy fwrdd o finegr
  • llefrith

Dull

  1. Rhwbio’r ymenyn i mewn i’r blawd ac ychwanegu’r defnyddiau sych eraill atynt. 
  2. Eu gwlychu’n raddol â llefrith nes cael cytew gweddol feddal.
  3. Cymysgu’r soda yn y finegr yn gyflym, ei dywallt i’r cytew a’i gymysgu drwyddo’n drwyadl. 
  4. Gadael i’r cytew sefyll dros nos.
  5. Iro tun ymyl-uchel a gorchuddio’i waelod a’i ochrau â haen o bapur ymenyn. 
  6. Rhoi’r cytew ynddo a’i grasu mewn popty gweddol boeth am awr neu awr a chwarter.

Caernarfon

 


 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.