Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Sucan Gwyn

Mynytho

Codi ychydig o’r trwyth i sosban. Mrs Catrin Jones, Y Bala, Meirionnydd.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • llond dysgl o flawd ceirch
  • chwart o ddŵr oer
  • hanner llond cwpan o laeth enwyn
  • peint o ddŵr oer
  • ychydig o siwgr a sinsir

Dull

  1. Rhoi’r blawd ceirch yn wlych yn y dŵr oer a’r llaeth enwyn a’i adael i suro am ddwy noson. 
  2. Yna tywallt y dŵr sydd ar wyneb y trwyth i ffwrdd, hidlo llond dwy lwy fwrdd o’r trwyth drwy ogr mân ac ychwanegu peint o ddŵr oer ato.  Rhaid i’r sucan gwyn fod ‘mor denau â llefrith’. 
  3. Ei flasu â siwgr a sinsir a’i ferwi am ryw ddeng munud.

Gellir cadw gweddill y trwyth yn ffres am rai diwrnodau drwy dywallt dŵr glân arno’n rheolaidd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.