Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Potes Cig
Y Bala, Gwynedd
Arferid bwyta’r cig a’r llysiau i ginio gan gadw’r potes a’i dywallt yn boeth ar fara gwyn neu ar fara ceirch i wneud brwes ar gyfer brecwast drannoeth.
Parc, Y Bala, Meirionnydd.
Y Rysáit
Byddwch angen
- darn o gig eidion a darn o gig mochyn hallt
- moron
- bresych
- meipen
- tatws
- dŵr
Dull
- Berwi’r cig a’r llysiau (wedi’u torri’n fân) mewn sosban fawr, gan ychwanegu’r tatws atynt ryw ugain munud cyn codi’r potes oddi ar y tân.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.