Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Bara Llefrith

Dyffryn Ardudwy, Gwynedd

Yr oedd hwn yn fwyd cyffredin iawn i frecwast neu i de.

Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • tafell o fara gwenith ar gyfer pob person
  • llefrith
  • siwgr neu halen

Dull

  1. Briwo’r bara i grochan neu sosban, tywallt llefrith arno a’i ferwi.
  2. Tywallt y bara llefrith i bowlen a’i flasu â siwgr neu â halen.

 neu

  1. Briwo’r bara i bowlen a thywallt llefrith berw arno.
  2. Ei flasu â siwgr neu â halen.

 

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.