Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Posel Llaeth neu Ddeulaeth
Llanfachraeth, Sir Fôn
Byddid yn rhoi sinsir yn y posel a’i yfed yn boeth wrth fynd i’r gwely er mwyn gwella annwyd.
Pennant, Trefaldwyn.
Weithiau, ychwanegid triog du at y llaeth enwyn a’r llefrith i wneud posel triog.
Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd.
Y Rysáit
Byddwch angen
- chwarter peint o laeth enwyn
- chwarter peint o lefrith
Dull
- Rhoi’r llaeth enwyn oer mewn dysgl neu gwpan, a thywallt llefrith berw arno.
- O dywallt y llefrith yn weddol gyflym fe dyrr y ddeulaeth yn ‘gaws a gleision’.
Llanfachreth, Môn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.