Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Diod Danadl Poethion

Banwy, Powys

Ystyrrid bod y ddiod hon yn feddyginiaeth gryfhaol.

Banwy Uchaf, Trefaldwyn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • hanner pwys o ddanadl poethion ifainc
  • pedair owns o hopys
  • hanner pwys o siwgr
  • lemon wedi’i dafellu
  • owns o sunsur
  • owns o bowdr tartar
  • ychydig o furum

Dull

  1. Rhoi’r danadl poethion a’r hopys mewn dŵr a’u berwi’n dda. 
  2. Hidlo’r trwyth a’i adael i oeri i wres gwaed cyn rhoi’r defnyddiau eraill ynddo. 
  3. Yna ychwanegu ychydig o furum at a’i adael i ‘weithio’ dros nos.
  4. Hidlo’r ddiod i boteli i’w chadw.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.