Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Y Rysáit
Byddwch angen
- llond dwrn o ddail dant y llew
- llond dwrn o ddail danadl poethion
- llond dwrn o eiddew llesg[M1]
- un coesgyn o riwbob
- pwys a hanner o siwgr
- hanner owns o furum
Dull
- Gorchuddio’r dail â dŵr a’u berwi am ryw ddeng munud.
- Hidlo’r trwyth a thoddi’r siwgr iddo.
- Ychwanegu’r burum ar ôl iddo glaearu a’i adael i ‘weithio’ dros nos.
- Hidlo’r trwyth i boteli a rhoi corcyn yn dynn yng ngheg pob un ohonynt.
Bro Gŵyr.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.