Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Diod Cynhaeaf Gwair

Gŵyr

Potel gwin.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • galwyn o ddŵr
  • pwys o resins
  • dau bwys o siwgr
  • sudd tri lemon

Dull

  1. Berwi’r dŵr i’w buro a’i adael i glaearu. 
  2. Rhoi’r resins, y siwgr a’r sudd lemon ynddo a’i droi ryw unwaith neu ddwy bob dydd am bedwar diwrnod. 
  3. Hidlo’r trwyth drwy fwslin, ei arllwys i boteli a rhoi corcyn yn dynn yng ngheg pob un ohonynt.
  4. Gellir teneuo’r ddiod hon ag ychydig o ddŵr cynnes cyn ei yfed, os dymunir.

Bro Gŵyr.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.