Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Siryp Ysgawen

Banwy, Powys

Potel gwin.

Byddid yn rhoi ychydig ohono mewn dŵr poeth a’i yfed yn y gaeaf i wella annwyd.

Banwy Uchaf, Trefaldwyn.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • blodau ysgaw
  • dŵr
  • siwgr
  • sinsir

Dull

  1. Llanw sosban fawr â blodau ysgaw, eu gorchuddio â dŵr a’u berwi’n araf am rai oriau.
  2. Hidlo’r trwyth a’i ferwi eto am hanner awr. 
  3. Rhoi ychydig o sinsir ynddo a phwys o siwgr ar gyfer pob peint o’r trwyth. 
  4. Ei ferwi eto nes gwelir ei fod yn tewhau.
  5. Ei dywallt i boteli i’w gadw.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.