Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Gwin Dant y Llew

Nelson, Caerffili

Y Rysáit

Byddwch angen

  • dau chwart o flodau dant y llew
  • pedwar chwart o ddŵr
  • tri oren wedi’u tafellu
  • tri lemon wedi’u tafellu
  • dau bwys o siwgr lwmp
  • hanner owns o furum ar ddarn o dost

Dull

  1. Berwi’r blodau, y tri oren a’r lemon yn y dŵr am ddeugain munud. 
  2. Yna hidlo’r cyfan drwy ddarn o fwslin. 
  3. Berwi’r trwyth eto am ryw hanner awr cyn rhoi’r siwgr ynddo.
  4. Arllwys y trwyth i badell a phan fydd wedi claearu, rhoi’r burum ar ei wyneb a’i adael i ‘weithio’ am dri diwrnod. 
  5. Yna rhoi’r gwin mewn poteli a’i gadw am ddau fis cyn ei yfed.

Nelson, Morgannwg.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.