Amser Bwyd
Hafan Amser Bwyd
Y Rysáit
Byddwch angen
- pum pwys o fwyar duon
- galwyn o ddŵr oer
- pwys o siwgr ar gyfer pob chwart o’r trwyth
- dwy owns o sinsir
- owns o glows
Dull
- Rhoi’r mwyar duon mewn padell bridd ac arllwys y dŵr oer drostynt.
- Gwasgu’r ffrwyth â llwy bren a throi’r dŵr unwaith y dydd am ddeng niwrnod.
- Yna hidlo’r trwyth drwy ogr mân, ychwanegu’r siwgr ato a’i doddi’n llwyr iddo.
- Berwi’r clows a’r sinsir mewn ychydig o’r trwyth hwn a’i adael i oeri drachefn cyn ei arllwys yn ôl at y gweddill.
- Ei adael i ‘weithio’ am saith niwrnod gan godi’r hyn a ddaw i’r wyneb fel y bo angen.
- Yna arllwys y gwin i boteli a gadael y corcyn yn llac yng ngheg pob potel am ryw fis o amser.
- Eu tynhau pan welir bod y gwin wedi tawelu.
Pontyberem, Caerfyrddin.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.