Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Gwin Riwbob

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin

Potel gwin.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • pum pwys o riwbob
  • galwyn o ddŵr oer
  • pwys o siwgr ar gyfer pob chwart o’r trwyth
  • dwy owns o sinsir
  • owns o glows

Dull

  1. Torri’r riwbob yn ddarnau o ryw fodfedd o hyd a’u hollti, eu rhoi mewn padell bridd ac arllwys y dŵr oer drostynt. 
  2. Gwasgu’r ffrwyth â llwy bren a throi’r dŵr unwaith y dydd am ddeng niwrnod. 
  3. Yna hidlo’r trwyth drwy ogr mân, ychwanegu’r siwgr a’i doddi’n drwyadl iddo. 
  4. Berwi’r sinsir a’r clows mewn ychydig o’r trwyth hwn a’i adael i oeri drachefn cyn ei arllwys yn ôl at y gweddill. 
  5. Ei adael i ‘weithio’ am saith niwrnod gan godi’r ‘wyneb’ fel y bo angen.
  6. Yna arllwys y gwin i boteli a gadael y corcyn yn llac yng ngheg pob un ohonynt am ryw fis o amser. 
  7. Eu tynhau pan welir bod y gwin wedi tawelu.

Pontyberem, Caerfyrddin.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.