Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Medd

Gŵyr

Arferid gwneud medd yn ystod misoedd yr hydref er mwyn iddo gael amser i ‘aeddfedu’ erbyn tymor y Nadolig.

Bro Gŵyr.

 

Y Rysáit

Byddwch angen

  • diliau mêl
  • siwgr
  • sinsir mâl

 

Dull

  1. Rhoi’r diliau mewn llond padell fawr o ddŵr oer ar ôl tynnu’r mêl ohonynt, a’u gadael i fwydo yno am ddiwrnod neu ddau.
  2. Yna hidlo’r trwyth a’i ferwi am hanner awr cyn toddi’r siwgr iddo (tua phwys i bob galwyn) a’i flasu â sinsir mâl.
  3. Ei arllwys i boteli pridd a’i gadw am rai wythnosau cyn ei yfed.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.