Amser Bwyd

Hafan Amser Bwyd

Tarten Lygaid

Aberporth, Ceredigion

Bwyteid y darten hon yn gynnes i ginio neu swper fel rheol.

Aber-porth, Aberteifi.

Y Rysáit

Byddwch angen

  • llygaid y graig
  • darnau bach o gig gwyn mochyn
  • blaen cenhinen wedi’i thorri’n ddarnau bach (heb gynnwys y dail)
  • crwst brau

 

Dull

  1. Berwi’r ‘llygaid’ yn eu cregyn am ryw hanner awr i’w breuhau. 
  2. Yna eu tynnu allan o’r cregyn, eu golchi’n lân a’u torri’n chwarteri.
  3. Rhoi haen o grwst brau ar blât dwfn a’i orchuddio â’r llygaid gyda’r darnau cig gwyn a’r cennin ar eu hwyneb. 
  4. Blasu’r cyfan â phupur a halen a’u gorchuddio â haen arall o grwst.
  5. Crasu’r darten mewn ffwrn boeth am yr hanner awr gyntaf a’i chadw mewn ffwrn weddol boeth am hanner awr arall.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.