Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
The Aberfan disaster was a catastrophic collapse of a colliery spoil in the Welsh village of Aberfan
David Hurn oedd un o’r ffotograffwyr cyntaf i gyrraedd lleoliad y drychineb yn Aberfan ym 1966, a laddodd 116 o blant a 28 o oedolion. Defnyddiwyd detholiad o ffotograffau Hurn fel tystiolaeth yn San Steffan, a arweiniodd at ddiwygiadau i safonau diogelwch wrth gloddio. Cyhoeddwyd ei ffotograffau ym mhob cylchgrawn nodedig ledled y byd, a chwaraeon nhw ran sylweddol yn yr ymchwiliad a ganfu fod y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn gwbl gyfrifol.
Meddai David Hurn am ei waith yn Aberfan, “Ni all neb byth ddweud na ddigwyddodd, neu nad oedd mor wael ag roedd yn ymddangos.”
Cafodd y digwyddiad effaith sylweddol ar Hurn, gan gyfrannu at ei benderfyniad i symud yn ôl i Gymru’n barhaol ym 1971.