Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Brooch
Broetsh 'MOTHER' a brynodd Marylyn Minett o Aberfan yn anrheg i'w mham, Iris. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Bu farw Carl, ei brawd bach saith oed hefyd. Prynodd Marylyn y broetsh yn anrheg i'w mham, Iris, tra ar drip ysgol i Ynys y Barri. Wedi’r drychineb, cadwodd Iris y broetsh yn agos ati o hyd. Enwodd Iris a Cliff Minett eu cartref yn ‘Carlyn’ er cof am Carl a Marylyn.