Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Alarm clock
Cloc larwm (Smiths, tua 1950au) cafodd ei ddarganfod ymysg y gweddillion yn dilyn trychineb Aberfan ar 21 Hydref 1966. Tua 9.15am y bore hwnnw, disgynnodd miloedd o dunelli o wastraff o hen domen lo ar bentref Aberfan a Ysgol Gynradd Pantglas, gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn. Mae'r cloc larwm cyffredin a ddarganfuwyd yn y rwbel du erbyn hyn yn wrthrych o bwys sy’n cael ei gysylltu â'r drychineb. Mae bysedd y cloc wedi stopio ar yr union funud dyngedfennol y bore hwnnw.
Darganfuwyd y cloc yn y rwbel gan Mike Flynn (yr hynaf) o Gaerdydd. Roedd Mike yn un o'r nifer o wirfoddolwr a aeth i helpu gyda’r gwaith achub yn dilyn y drychineb. Credir bod y cloc wedi ei dynnu o rwbel un o’r gerddi yn Moy Road, Aberfan a defnyddiwd fel tystiolaeth i sefydlu amser y drychineb yn y cwêst a ddilynodd.