Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
School book
Llyfr ysgol Marylyn Minett o Aberfan. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach saith oed yn y drychineb hefyd. Mae'r llyfr ysgol (heb y clawr) yn cynnwys ymarferion gramadegol Saesneg wedi eu cwblhau gan Marylyn tra yn yr ysgol. Ar ddiwrnod y drychineb, roedd llyfrau Marylyn adref gan ei bod yn ddiwedd yr hanner tymor.