Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
School book wallet
Waled llyfrau ysgol Marylyn Minett o Aberfan. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach saith oed yn y drychineb hefyd. Cadwodd Marylyn ei llyfrau ysgol yn y waled ledr; dau lyfr ysgrifennu a dau lyfr gramadeg Saesneg. Ar ddiwrnod y drychineb, roedd y waled a llyfrau Marylyn adref gan ei bod yn ddiwedd yr hanner tymor.