Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Brooch
Broetsh siâp calon Marylyn Minett o Aberfan. Roedd Marylyn yn ddeg mlwydd oed pan lladdwyd hi yn ei hystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Bu farw Carl, ei brawd bach saith oed hefyd. Prynodd Marylyn y broetsh calon gyda'i harian poced tra ar drip ysgol i Ynys y Barri. Wedi’r drychineb, cafodd y broetsh ei gadw’n ddiogel gan ei rhieni (Iris a Cliff Minett) yng nghartref y teulu a gafodd ei enwi’n ‘Carlyn’ er cof am Carl a Marylyn.